Personal tools

Gwybodaeth / About Us

by PRT — last modified 18-12-2008 14:14

About Us

Mae'n ysgol gyfun gymysg ffyniannus a llwyddiannus â rhyw 1700 o ddisgyblion a leolir ar gampws mawr. Mae tua 290 o fyfyrwyr yn y Chweched Dosbarth. Yn y flwyddyn academaidd 2007 / 2008 daeth tua 300 o ddisgyblion i flwyddyn saith. Lleolir yr Ysgol yn nhref fechan Rhydaman wrth droed y Mynydd Du. Daw'r disgyblion sy'n mynychu'r ysgol o ddalgylch eang sy'n gymysg o'r gwledig a'r diwydiannol. Mae'r ysgol yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo natur ddwyieithog yr ardal.

The school is a thriving, successful mixed comprehensive of some 1800 pupils based on a large campus. There is a sixth form of some 290 pupils. For the 2007/2008 academic year the number of children admitted to the first year of the school will be circa 300.
The school is located in the small town of Ammanford at the foot of the Black Mountains. Pupils attending the school come from a large catchment area which is a mixture of the rural and industrial. The school reflects and enhances the bilingual nature of the area.

lowerschool


Mae gan yr ysgol gyfleusterau chwaraeon rhagorol, yn cynnwys neuadd chwaraeon, pwll nofio, cyrtiau tenis a maes astroturf ar gyfer hoci a phêl-droed. Mae i'r Ysgol draddodiad llewyrchus ym myd chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol. Mae nifer o fechgyn a merched yn cynrychioli eu sir a'u gwlad mewn llawer maes. Bydd aelodau newydd yn ymuno â staff ymroddgar a gofalus iawn.

The school has excellent sports facilities, including a sports hall, a swimming pool, a new astroturf for Hockey and Football, together with new Tennis courts. There is also a fine tradition of sporting achievements and other extra-curricular activities in the school. Many boys and girls represent their county and country in a number of fields. New members of staff will be joining a highly committed and caring staff.

Nodau'r Ysgol

1. Sicrhau cymuned ysgol ddymunol lle gall disgyblion a staff fwynhau gweithio gyda'i gilydd.
2. Meithrin a datblygu potensial deallusol a chymdeithasol a chorfforol pob plentyn hyd eithaf ei allu.
3. Annog y disgyblion i feddwl yn annibynnol, yn fywiog ac ymchwilgar gan roi cyfle cyfartal i bob un heb ystyried rhyw, hil, oed na gallu i ennill cymwysterau, gwybodaeth a sgiliau a fydd yn berthnasol i anghenion eu dyfodol, ac i sichrau sylfaen ddigonol i'w galluogi i symud ymlaen i swyddi, addysg bellach, hyfforddiant neu feysydd eraill.
4. Datblygu dealltwriaeth o, a pharch a goddefgarwch tuag at werthoedd moesol a chrefyddol ein cymdeithas ni a chymdeithasau gwahanol.
5. Hyrwyddo gwybodaeth o'n hetifeddiaeth a'n hiaith arbennig ni ac i fagu empathi tuag atynt. Gwneir hyn mewn awyrgylch gwbl ddwyieithog, gan roi cyfle i bob un astudio Cymraeg yn ogystal â'r Saesneg, a defnyddio'r ddwy iaith yn helaeth fel cyfrwng dysgu.

Aims of the School.

1. To provide a pleasant school community for pupils and staff in which they can enjoy working together.
2. To nurture and develop the intellectual, social and physical potential of each child to the fullest extent.
3. To encourage lively, independent and enquiring minds, providing an equal opportunity for all regardless of gender, race, age and ability. To gain qualifications, knowledge and skills relevant to their future needs, and to ensure a base sufficient to facilitate progression into employment, further education, training or other roles.
4.To develop understanding of and respect and tolerance for religious and moral values in our society and in differing societies.
5. To enhance a knowledge of and empathy for our particular cultural inheritance and language in a thoroughly bilingual environment, giving all an opportunity to study Welsh as well as English, and using both languages extensively as a medium of instruction.


Events Calendar
« March 2010 »
Su Mo Tu We Th Fr Sa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031
Cyswllt / Contact info

 

Ysgol Dyffryn Aman,
Stryd Marged,
Rhydaman,
Sir Gaerfyrddin,
SA18 2NW.

Amman Valley School,
Margaret Street,
Ammanford,
Carmarthenshire,
SA18 2NW.

PHONE: 01269 592441,
FAX: 01269 597247

Email: admin.ygda@ysgolccc.org.uk

Diweddarwyd diwethaf ar 20/1/2010
Last updated on 20/1/2010

 

Powered by Plone CMS, the Open Source Content Management System